UWB Crest

Canolfan Defnydd Tir Amgen

Lleiniau Arddangos CALU -

taflenni gwybodaeth am gnydau

Mae CALU wedi cynhyrchu amrywiaeth o daflenni gwybodaeth i roi gwybodaeth sylfaenol am y cnydau sy'n cael eu tyfu yn ei lleiniau arddangos. Mae'r taflenni gwybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd wedi eu rhestru isod a gellir eu llwytho i lawr mewn fformat pdf.

Blodau'r Haul - tyfir y rhain am eu hadau llawn olew. Defnyddir y rhain i gynhyrchu olew bwytadwy neu i'w gwerthu fel hadau i bobl eu bwyta neu fel bwyd adar. Mae diddordeb cynyddol mewn blodau'r haul ar gyfer cynhyrchu biodiesel.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Blodau'r Haul (77kb)

Camelina - planhigyn sy'n cael ei dyfu oherwydd yr olew sydd yn ei hadau. Mae'r olew'n annirlawn iawn. Gall pobl ei fwyta ac fe'i defnyddir hefyd i wneud cosmetigau.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Camelina (79kb)

Ceirch noeth - a elwir hefyd yn geirch di-goden. Mae o ddiddordeb i gynhyrchwyr da byw fel bwyd sy'n gynnwys llawer o egni.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Geirch Noeth (69kb)

Crambe - cnwd had olew nad yw'n fwyd. Mae olew Crambe yn cynnwys llawer o asid erwsig - rhagsylweddyn erwsamid sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y diwydiant plastigau.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Crambe (65kb)

Cywarch pwrpas deublyg - cynhyrchir hadau i'w defnyddio mewn bwyd adar ac ar gyfer prosesu i gynhyrchu olew bwytadwy, ynghyd ffibr i'w ddefnyddio mewn prosesau diwydiannol.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Cywarch pwrpas deublyg (72kb)

Echium - fel tafod yr ych, mae Echium (a elwir hefyd yn Glesyn y Wiber) yn cynnwys hadau sy'n llawn asid gamma linolenig. Mae Echium hefyd yn cynnwys symiau sylweddol o asid brasterog hanfodol arall, sef asid stearidonig.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Echium (73kb)

Ffa Ffrengig byr - mae hwn yn gnwd hawdd ei dyfu sy'n addas ar gyfer ei werthu'n uniongyrchol o ffermydd, busnesau 'heliwch eich hun', neu rewi.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Ffa Ffrengig byr (66kb)

India Corn - tyfir hwn fel bwyd i bobl, ac mae'n gnwd addas i chi ei hel eich hun neu ei werth wrth giatiau ffermydd.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am India Corn (71kb)

Lwpinau - tyfir y rhain fel bwyd anifeiliaid sy'n llawn protein. Maent yn newid lefelau nitrogen yn y pridd ac felly gallent helpu i wella ffrwythlondeb pridd.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Lwpinau (72kb)

Melyn Mair (Calendula) - tyfir hwn am ei olew a ddefnyddir yn y diwydiant cosmetigau, a hefyd ar gyfer cynhyrchu paentiau a deunyddiau tebyg.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth Melin Mair (67kb)

Tafod yr Ych - mae hadau tafod yr ych yn cynnwys olew sy'n llawn asid gamma linolenig a ddefnyddir yn y diwydiant fferyllol.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am Dafod yr Ych (74kb)

Tatws Sárpo - tatws yw'r rhain sydd wedi cael eu datblygu oherwydd eu bod yn gallu gwrthsefyll afiechyd malltod hwyr (Phytophthora infestans) yn naturiol.
Llwythwch i lawr y daflen wybodaeth am datws Sárpo (67kb)

 


 

Top