Canolfan Defnydd Tir Amgen
**Mae'r dudalen hon yn cael ei chyfieithu
Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra**
Enw prosiect (Clicio ar enw prosiect am mwy o wybodaeth)
|
|
2006 | |
Cynhyrchu perlysiau wedi torri | |
Plotiau arddangos geiriau egni | |
Cnydau egni i Gymru: Canllawiau ar gyfer diwydiant ac amaethyddiaeth | |
Diwrnodau hyfforddi coedlannau ffermydd | |
Treialon malltod tatws | |
Lleiniau arddanog cnydau newydd | |
Rhywogaethau coed a llwyni amgen ar gyfer lleiniau cysgodi | |
|
|
2005 |
|
|
|
Enw prosiect : | Diwrnodau Hyfforddi Coedlannau Ffermydd |
Rhelowr prosiect : | Coed Cymru |
Lleoliad prosiect : | Amrywiol |
Trwy gydol 2006, bydd Coed Cymru, ar ran CALU, yn cynnal cyfres o ddiwrnodau hyfforddi. Bydd y pynciau canlynol dan sylw: 1. Rheoli Adar Helwriaeth (ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Adar Helwriaeth) 2. Cynhyrchion Coed 3. Coedlannau Ffermydd a Choed 4. Diwrnod Sefydlu Coedlannau
Cyhoeddir manylion am leoliadau, dyddiadau ac amseroedd y digwyddiadau hyn yma cyn gynted ag y bydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Choed Cymru - 01686 650777 |
Enw prosiect : | Treialon Malltod Tatws |
Rhelowr prosiect : | David Frost |
Lleoliad prosiect : | Llanrhystud |
Mae'r project hwn yn dilyn ymlaen o'r project arddangos treial malltod tatws yn 2005. Yn ystod y project bydd plotiau gwahanol gyltifarau tatws yn cael eu sefydlu ar y fferm. Bydd rhywogaethau Sarpo newydd a phresennol yn cael eu hasesu am eu gallu i wrthsefyll malltod ar y dail, eu gallu i gynhyrchu cloron a malltod cloron ar ôl y cynhaeaf. DIWRNODAU AGORED: 19 Gorffennaf a 20 Medi Bydd yr adroddiad terfynol ar broject llynedd ar gael yn y dyfodol agos. Mae'r daflen ffeithiau o dreialon 2004 ar gael ar wefan Canolfan Organic Cymru. |
Enw prosiect : | Lleiniau arddangos cnydau newydd |
Rhelowr prosiect : | UWB |
Lleoliad prosiect : | Amrywiol |
Mae'r project hwn yn dilyn ymlaen o'r arddangosiadau yn 2005. Bydd CALU, ar y cyd â'r Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth, Prifysgol Cymru, Bangor ac Ymddiriedolaeth Ymchwil Sárvári, yn sefydlu lleiniau arddangos mewn pedwar lleoliad ar draws Cymru. Mae'r lleiniau hyn yn dangos sut i dyfu a rheoli amrywiaeth o gnydau amgen gan gynnwys:
Cynhelir diwrnodau agored ar bob safle - cyhoeddir manylion yma cyn gynted ag y byddant ar gael. I gael rhagor o wybodaeth am y cnydau, cliciwch yma. I gael rhagor o wybodaeth am y project, cysylltwch â CALU.
|
Enw prosiect : | Rhywogaethau coed a llwyni amgen ar gyfer lleiniau cysgodi |
Rhelowr prosiect : | Coed Cymru |
Lleoliad prosiect : | tba |
Bydd y project hwn yn arddangos wrth blannu rhywogaethau coed a llwyni amgen mewn lleiniau cysgodi ei bod yn bosib darparu ardaloedd cynefinoedd bioamrywiaeth pwysig ar y fferm, er mwyn cysylltu rhwng cynefinoedd a gweithredu fel rhwystr i ddwr ffo ger glannau nentydd. Mae lleiniau cysgodi hefyd â'r potensial i gynhyrchu cynhyrchion ffrwythau, hadau a choedwigaeth mewnbwn isel. Cynhelir diwrnodau agored ar safleoedd arddangos ar draws Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Choed Cymru - 01686 650777 |
Enw prosiect : | Cynhyrchu perlysiau wedi'u torri |
Rhelowr prosiect : | Dr Colin Norton |
Lleoliad prosiect : | Coleg Garddwriaeth Cymru, Northop |
Bwriad y project yw pennu: 1. Pa mor ymarferol yw cynhyrchu perlysiau wedi'u torri mewn adeileddau polythen twnelaidd, yn cynnwys costiad a chyfraddau cynhyrchu. Diwrnodau agored: 5 Gorffennaf 3.00pm & 5 Medi |
Enw prosiect: | Cnydau ynni yng Nghymru: Gymru: arweiniad ar gyfer diwydiant ac amaethyddiaeth |
Rheolwr prosiect: | Catherine Heywood , ADAS Wales Ltd |
Lleoliad prosiect: | n/a |
Nod yr astudiaeth hon yw creu cyswllt rhwng y diwydiant ynni adnewyddadwy ac amaethyddiaeth. Bydd yn hyrwyddo'r diwydiant biomas yng Nghymru ac yn rhoi gwybodaeth i ddatblygwyr projectau ac i ffermwyr fel ei gilydd trwy wefan ryngweithiol.
|
Enw prosiect: | Plotiau arddangos glaswellt ynni |
Rheolwr prosiect : | Catherine Heywood, ADAS Wales Ltd |
Lleoliad prosiect: | Coleg Glynllifon, Caernarfon & Coleg Gelli Aur, Carmarthenshire |
Plennir tair rhywogaeth of laswellt ynni (Miscanthus, Corswellt Amryliw a Marchwellt) ym mhob lleoliad er mwyn dangos proses cynhyrchu'r mathau hyn o laswellt. |
Enw prosiect: | Ffermio madarch egsotic yng Nghymru |
Rheolwr prosiect : | David Frost, ADAS Wales Ltd |
Lleoliad prosiect: | ADAS Pwllpeiran and farm trials |
This project is looking at the feasibility of producing mushrooms both indoors and out, and on a variety of growing media. Llwytho i lawr: Adroddiad terfynol |
Enw prosiect: | Profion tatws gwrth falltod - 2005 |
Rhelowr prosiect: | David Frost, ADAS Wales Ltd |
Lleoliad prosiect: | Llanrhystud |
Cychwynnodd parhad ar y profion tatws gwrth-falltod yn 2004. Gwerthusiad ar fathau Sarpo o ran gwydnwch, y gallu i atal cystadleuaeth ymysg chwyn, a'r gallu i wrthsefyll malltod. Gwerthuso nodweddion o safbwynt y bwytawr. Gwerthuso triniaeth a the compost fel dull o warchod rhag malltod tatws. DIWRNODAU AGORED : DYDD MERCHER13 GORFFENNAF 2005 a DYDD GWENER 9 MEDI 2005 |
Enw prosiect: | Diwrnodau hyfforddiant Coed Cymru - 2005 |
Rhelowr prosiect: | Andy Stewart, Coed Cymru |
Lleoliad prosiect : | Coed Cymru, Tregynon |
Bydd Coed Cymru yn darparu cyfres o ddiwrnodau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn. Mae pynciau i'w trafod yn cynnwys: Offer pelennu tanwydd coed Cysylltu: |
Enw prosiect : | Plotiau arddangos cnydau amgen a thatws - 2005 |
Rheolwr prosiect : | Geraint Hughes, UWB |
Lleoliad Prosiect: | Pum safle ar drws Cymru |
Ochr yn och a'r Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth ac Ymddiriodolaeth Ymchwil Sarvari, bydd y Ganolfan Defnydd Tir Amgen (CALU) yn sefydlu lleiniau arddangos mewn pum lleoliad ar draws Cymru. Defnyddir y lleiniau hyn i ddangos sut i dyfu a rheoli:
|
Am mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.