UWB Crest

Canolfan Defnydd Tir Amgen

Prosiectau CALU

**Mae'r dudalen hon yn cael ei chyfieithu
Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra**

 

 

Enw prosiect (Clicio ar enw prosiect am mwy o wybodaeth)

 

   
  2006
  Cynhyrchu perlysiau wedi torri
  Plotiau arddangos geiriau egni
  Cnydau egni i Gymru: Canllawiau ar gyfer diwydiant ac amaethyddiaeth
  Diwrnodau hyfforddi coedlannau ffermydd
  Treialon malltod tatws
  Lleiniau arddanog cnydau newydd
  Rhywogaethau coed a llwyni amgen ar gyfer lleiniau cysgodi

 

 

2005

 

Plotiau arddangos cnydau amgen a thatws - 2005

 

Ffermio madarch egostic yng Nghymru

 

Tatws gwrth falltod - 2005

 

Diwrnodau hyfforddiant Coed Cymru - 2005

 

 

   

 

   

 

Enw prosiect : Diwrnodau Hyfforddi Coedlannau Ffermydd
Rhelowr prosiect : Coed Cymru
Lleoliad prosiect : Amrywiol

Trwy gydol 2006, bydd Coed Cymru, ar ran CALU, yn cynnal cyfres o ddiwrnodau hyfforddi. Bydd y pynciau canlynol dan sylw:

1. Rheoli Adar Helwriaeth (ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Adar Helwriaeth)
Yn canolbwyntio ar reoli cynefinoedd a dewis a rheoli cnydau helwriaeth a magu a rhyddhau ar raddfa fach. Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar ffermydd stoc ucheldir ac yn cynnwys cyflwyniad ar ofynion cyfreithiol rheoli ysglyfaethwyr a chostau ac incwm tebygol.

2. Cynhyrchion Coed
Cynhelir y diwrnod hyfforddi hwn yn siop goed Wentwood (Sir Fynwy) a bydd yn dangos sut i sychu coed diamedr bach a'u trosi'n gynhyrchion eraill, gan gynnwys cynhyrchion a thriniaethau i ychwanegu gwerth. Trafodir marchnadoedd coed lleol yn ne ddwyrain Cymru.

3. Coedlannau Ffermydd a Choed
Diwrnod hyfforddi i'w gynnal ar Fferm Aberbechan, ger Drenewydd, i ddangos sut mae coedlannau wedi cael eu hintegreiddio i'r fferm, gan gynnwys melinau ar y safle, prosesu a throsi'r coed yn gynhyrchion ar y fferm.

4. Diwrnod Sefydlu Coedlannau
Diwrnod hyfforddi sy'n ymdrin â'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen wrth blannu coed i greu coedlan, gwrychoedd a lleiniau cysgodi. Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • dewi rhywogaethau i'r safle
  • plannu coed mewn trefn arbennig
  • dewis stoc o'r feithrinfa
  • sut a phryd i blannu
  • amddiffyn a diogelu
  • cynnal a chadw a chwynnu

Cyhoeddir manylion am leoliadau, dyddiadau ac amseroedd y digwyddiadau hyn yma cyn gynted ag y bydd ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Choed Cymru - 01686 650777

Top

 

 

 

 

 

 

Enw prosiect : Treialon Malltod Tatws
Rhelowr prosiect : David Frost
Lleoliad prosiect : Llanrhystud

Mae'r project hwn yn dilyn ymlaen o'r project arddangos treial malltod tatws yn 2005. Yn ystod y project bydd plotiau gwahanol gyltifarau tatws yn cael eu sefydlu ar y fferm. Bydd rhywogaethau Sarpo newydd a phresennol yn cael eu hasesu am eu gallu i wrthsefyll malltod ar y dail, eu gallu i gynhyrchu cloron a malltod cloron ar ôl y cynhaeaf.
Bydd y project yn edrych hefyd ar effeithiau cynaeafu dilynol ar gynhyrchiant, maint cloron a difrod gan bla. Elfen newydd yn y project fydd arddangosiad a gwerthusiad o fwstard Caliente mewn rheoli plâu pridd ac afiechydon tatws.

DIWRNODAU AGORED: 19 Gorffennaf a 20 Medi

Bydd yr adroddiad terfynol ar broject llynedd ar gael yn y dyfodol agos.

Mae'r daflen ffeithiau o dreialon 2004 ar gael ar wefan Canolfan Organic Cymru.

Top

 

 

 

 

 

 

Enw prosiect : Lleiniau arddangos cnydau newydd
Rhelowr prosiect : UWB
Lleoliad prosiect : Amrywiol

Mae'r project hwn yn dilyn ymlaen o'r arddangosiadau yn 2005. Bydd CALU, ar y cyd â'r Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth, Prifysgol Cymru, Bangor ac Ymddiriedolaeth Ymchwil Sárvári, yn sefydlu lleiniau arddangos mewn pedwar lleoliad ar draws Cymru. Mae'r lleiniau hyn yn dangos sut i dyfu a rheoli amrywiaeth o gnydau amgen gan gynnwys:

  • corn melys
  • lwpinau
  • ffa Ffrengig bach
  • ceirch noeth
  • cywarch
  • tatws Sarpo sy'n gwrthsefyll malltod
  • pannas
  • moron

Cynhelir diwrnodau agored ar bob safle - cyhoeddir manylion yma cyn gynted ag y byddant ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am y cnydau, cliciwch yma. I gael rhagor o wybodaeth am y project, cysylltwch â CALU.

 

Top

 

 

 

 

 

 

Enw prosiect : Rhywogaethau coed a llwyni amgen ar gyfer lleiniau cysgodi
Rhelowr prosiect : Coed Cymru
Lleoliad prosiect : tba

Bydd y project hwn yn arddangos wrth blannu rhywogaethau coed a llwyni amgen mewn lleiniau cysgodi ei bod yn bosib darparu ardaloedd cynefinoedd bioamrywiaeth pwysig ar y fferm, er mwyn cysylltu rhwng cynefinoedd a gweithredu fel rhwystr i ddwr ffo ger glannau nentydd. Mae lleiniau cysgodi hefyd â'r potensial i gynhyrchu cynhyrchion ffrwythau, hadau a choedwigaeth mewnbwn isel.

Cynhelir diwrnodau agored ar safleoedd arddangos ar draws Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Choed Cymru - 01686 650777

Top

 

 

 

 

 

 

 

Enw prosiect : Cynhyrchu perlysiau wedi'u torri
Rhelowr prosiect : Dr Colin Norton
Lleoliad prosiect : Coleg Garddwriaeth Cymru, Northop

Bwriad y project yw pennu:

1. Pa mor ymarferol yw cynhyrchu perlysiau wedi'u torri mewn adeileddau polythen twnelaidd, yn cynnwys costiad a chyfraddau cynhyrchu.
2. Datblygu systemau cynhyrchu organic ar gyfer y nwydd hwn.
3. Y graddau y mae ansawdd ac amsweriad y cynnyrch yn dderbyniol i'r diwydiant arlwyo.

Diwrnodau agored: 5 Gorffennaf 3.00pm & 5 Medi

Top

 

 

 

 

 

 

Enw prosiect:    Cnydau ynni yng Nghymru: Gymru: arweiniad ar gyfer diwydiant ac amaethyddiaeth
Rheolwr prosiect: Catherine Heywood , ADAS Wales Ltd
Lleoliad prosiect:  n/a

 

Nod yr astudiaeth hon yw creu cyswllt rhwng y diwydiant ynni adnewyddadwy ac amaethyddiaeth. Bydd yn hyrwyddo'r diwydiant biomas yng Nghymru ac yn rhoi gwybodaeth i ddatblygwyr projectau ac i ffermwyr fel ei gilydd trwy wefan ryngweithiol.

 

Top

 

 

 

 

 

 

 

 

Enw prosiect:    Plotiau arddangos glaswellt ynni
Rheolwr prosiect : Catherine Heywood, ADAS Wales Ltd
Lleoliad prosiect:  Coleg Glynllifon, Caernarfon & Coleg Gelli Aur, Carmarthenshire

 

Plennir tair rhywogaeth of laswellt ynni (Miscanthus, Corswellt Amryliw a Marchwellt) ym mhob lleoliad er mwyn dangos proses cynhyrchu'r mathau hyn o laswellt.


Diwrnodau agored:
Gelli Aur - Dydd Mercher 11 Hydref, 1.00pm - 3.00pm
Glynllifon - Dydd Mercher 18 Hydref, 1.00pm - 3.00pm

Top

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Enw prosiect:    Ffermio madarch egsotic yng Nghymru
Rheolwr prosiect : David Frost, ADAS Wales Ltd
Lleoliad prosiect:  ADAS Pwllpeiran and farm trials

 

This project is looking at the feasibility of producing mushrooms both indoors and out, and on a variety of growing media.

Llwytho i lawr: Adroddiad terfynol

Top

 

 

 

Enw prosiect:    Profion tatws gwrth falltod - 2005
Rhelowr prosiect: David Frost, ADAS Wales Ltd
Lleoliad prosiect:  Llanrhystud

 

Cychwynnodd parhad ar y profion tatws gwrth-falltod yn 2004. Gwerthusiad ar fathau Sarpo o ran gwydnwch, y gallu i atal cystadleuaeth ymysg chwyn, a'r gallu i wrthsefyll malltod. Gwerthuso nodweddion o safbwynt y bwytawr. Gwerthuso triniaeth a the compost fel dull o warchod rhag malltod tatws.

DIWRNODAU AGORED : DYDD MERCHER13 GORFFENNAF 2005 a DYDD GWENER 9 MEDI 2005
Ffon: 01974 282229

Top

 

 

 

 

 

Enw prosiect:    Diwrnodau hyfforddiant Coed Cymru - 2005
Rhelowr prosiect: Andy Stewart, Coed Cymru
Lleoliad prosiect :  Coed Cymru, Tregynon

 

Bydd Coed Cymru yn darparu cyfres o ddiwrnodau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn. Mae pynciau i'w trafod yn cynnwys:

Offer pelennu tanwydd coed
Trin pren a gwres
Lleiniau cysgodi
Carpio pren a chynhyrchu pelenni coed
Asglodion coed ar gyfer gwelyau anifeiliaid a chompostio


Mae'r digwyddiadau hyn yn agored i unrhyw un a fo a diddordeb.

Cysylltu:
Coed Cymru - 01686 650777, neu
CALU - 01248 680450

Top

 

 

 

 

 

 

Enw prosiect :    Plotiau arddangos cnydau amgen a thatws - 2005
Rheolwr prosiect : Geraint Hughes, UWB
Lleoliad Prosiect:  Pum safle ar drws Cymru

Ochr yn och a'r Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth ac Ymddiriodolaeth Ymchwil Sarvari, bydd y Ganolfan Defnydd Tir Amgen (CALU) yn sefydlu lleiniau arddangos mewn pum lleoliad ar draws Cymru. Defnyddir y lleiniau hyn i ddangos sut i dyfu a rheoli:

  • crambe
  • melin mair
  • ffa byr Ffrengig
  • ceirch noeath
  • llin
  • tatws Sarpo

Mwy o wybodaeth

Top

 

 

 

Am mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.