UWB Crest

Canolfan Defnydd Tir Amgen

 

Cylchlythyr CALU - Gwanwyn 2011 (pdf 456KB)
Yn y rhifyn hwn: Grantiau newydd ar gyfer coetiroedd newydd; Rhagweld cynnydd ym mhris cashmir; Adroddiadau newydd; Polidwnelau a chynllunio - penderfynidd y Llys Apel; Ydych chi'n gwybod pa blau planhigion y dylech roi gwybod amdanynt?; Y galw am lus yn dal i gynyddu; Digwyddiadau i ddod.

Cylchlythyr CALU - Hydref 2010 (pdf 455KB)
Yn y rhifyn hwn: Gwinoedd o Gymru: Gweithdai'r Hydref; Staff CALU newydd; Awydd ymuno â grwp trafod?; Taflenni ffeithiau newydd gan CALU; Digwyddiadau i dod.

Cylchlythyr CALU - Haf 2010 (pdf 594KB)
Yn y rhifyn hwn: Gweithdy perlysiau; Menteision gwenyn; Malltod nodwyddau band coch; Cynnydd yn yr asbaragws a gynhyrchir; Recordio symudiadau moch yn electronig; Cynhyrchu gwin yn dyblu yn y DU; Projectau newydd; Cynllun sicrhau biomas solet newydd; Impio ac egino.

Cylchlythyr CALU - Aeaf 2009 (pdf 384KB)
Yn y rhifyn hwn: Plaladdwyr - a oes gennych dystygrif fedrusrwydd?; Grwpiau trafod newydd; Digwyddiadau garddwriaethol; Grantiau sydd ar gael ar gyfer cyrsiau medrau cefn gwlad; Lladd a thrin dofednod ar raddfa bach; Ffeithlenni CALU newydd ar gael.

Cylchlythyr CALU - Haf 2009
Yn y rhifyn hwn: Gweithdai twrciod; Dosbarth meistr garddwriaethol Henfaes; Gweithdy iechyd moch; Bara gyda'r dim filltir fwyd (bron iawn); Pa mor galed yw 'caled'; Rhiwbob, rhiwbob, rhiwbob.

Cylchlythyr CALU - Gwanwyn 2009
Yn y rhifyn hwn: Digwyddiadau CALU yn 2009; Garddio Masnachol yng Ngholeg Garddwriaeth Cymru; Gwsberis; Biochar; Awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau CALU yn y dyfodol; Ydi gwenyn yn amddiffyn cnydau rhag lindys?: Toeau gwyrdd.

Cylchlythyr CALU - Aeaf 2008 (PDF, 1MB)
Yn y rhifyn hwn: Coed nadolig; Gweithdy plaladdwyr; Ychwanegu gwerth ar gyfer y nadolig; Ffyngau coetir meddyginiaethol; Staff newydd yn CALU; Defnyddio sglodion coed fel compost; Digwyddiadau i ddod.

Cylchlythyr CALU - Hydref 2008
Yn y rhifyn hwn: Cyfres o weithdai CALU ar blaleiddiaid; Digwyddiadau CALU yn ymwneud â Thatws; Lafant yn Henfaes; Crwyn geifr; Digwyddiad ynni adnewyddadwy – 7 Hydref; Digwyddiadau i Ddod

518KB

Cylchlythyr CALU - Haf 2008
Yn y rhifyn hwn: CALU yn y sioeau; Cynhaeaf yn Henfaes; Pytiau newyddion; Gwenyn Prysur CALU; Sut i gymryd rhan; Digwyddiadau i Ddod

541KB

 

CALU NEWS - February 2007

CLICK HERE FOR THE NEWS ARCHIVE

Deunydd matiau i helpu ag erydiad pridd
Mae'r arbenigwr ar dyfu coed, PG Horiticulture, sydd wedi eu lleoli yng Nghaergrawnt, wedi canfod ateb i dyfiant chwyn ac erydiad pridd o amgylch coed ifainc sydd newydd eu plannu - y matiau Isomat. Mae'r Isomat wedi'i wneud o jiwt a ffeibrau coed - ac mae'r ddau'n biobydru'r araf; mae'r ddau ddeunydd yn gyfuniad delfrydol i sicrhau bod y matiau'n aros yn eu lle yn ystod blynyddoedd ffurfiannol oed y coed.

DIGWYDDIADAU
Cynhadledd Ryngwladol ar Gompostio: yn Nulyn ar 19 a 20 Chwefror 2007. Bydd y gynhadledd yn edrych ar 'ddefnyddio biomas yn gynaliadwy: mewn pridd neu fel ffynhonnell egni'. Cliciwch yma i gael ffurflen archebu lle a rhaglen.

'Ydy bwyd yn hybu datblygiad yn lleol a thramor?'
Cynhelir seminar undydd ar 13 Mawrth 2007 ym Mharc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, gogledd Cymru, ar y thema hon.
Bydd yn ystyried a all darparu bwyd yn lleol wella datblygiad cymdeithasol ac economaidd, as os felly, sut. Cysylltwch â Joanne Cook am ragor o wybodaeth.

Woodfuel Conference on Tuesday 17th April 2007 at Stonleigh Park, Warwickshire. Click here for further details and to book online.

Cynhyrchu ffrwythau a llysiau a'r System Taliad Sengl
Mae'r Comisiynydd Ewropeaidd â chyfrifoldeb dros Amaethyddiath a Datblygu Gwledig, Mariann Fisher Boel, wedi cyhoeddi cynlluniau i ddod â chynhyrchu ffrwythau a llysiau o dan y System Taliad Sengl.
Mewn cyhoeddiad ar 24 Ionawr 2007, nododd Ms Boel "byddai ein cynnig yn newid y rheolau fel bod yr holl dir fferm o dan ffrwythau llysiau - yn cynnwys cnydau parhaol a thatws bwrdd - yn "hectarau cymwys", ymhob model STS. Byddai hyn yn torri drwy dâp coch trafferthus iawn yn y system gyfredol." Fodd bynnag, yr Aelod Wladwriaeth fydd yn penderfynu ar ddyrannu hawliau.

Cliciwch yma i ddarllen datganiad llawn Ms Boel.

Roedd ein diwrnod ychwanegu gwerth at goed fferm yn Llanrwst ar 9 Chwefror yn llwyddiannus iawn er gwwaetha'r eira. Bu Mr Micheal Tree yn Nhŷ Hendre, Llanrwst, mor garedig â darparu'r lleoliad ar gyfer y digwyddiad. Roedd ymwelwyr yn gallu gweld Woodmizer wrth we wraith. Fe wnaethant hefyd ddysgu am gynaeafu, trin, storio a phrosesu coed fferm yn gywir.

TAFLENNI TECHNEGOL NEWYDD
Mae ychwanegiadau'r mis hwn o daflenni technegol am ddim o lyfrgell CALU yn cynnwys:
Ym maes anifeiliaid mae gennym dair taflen newydd:
Extensive poultry production
Gan barhau a thema coedlannau mae yna ddau ychwanegiad newydd:
Cynhyrchion Pren Hollt
Sychu coed tân
Coed parcdir

Ac yn yr adran garddwriaeth mae gennym:
Field Grown Strawberries
Cynhyrchu Seidr
Plums and Damsons
Green Roof Systems
Ac yn yradran Cnydau Amgen mae gennym:
Camelina
Os oes yna destun yr hoffech weld taflen dechnegol yn cael ei hysgrifennu arno, gadewch i ni wybod!

YN FYR
Mae CALU newydd gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2006. dewisch y cyswyllt hwn i'w lwytho i lawr (pdf, 2083KB)

Wyddech chi ...?
Mae garddwriaeth yn cynnwys dim ond 3% o dir amaethyddol, ond yn cynhyrchu 17% o werth amaethyddol!

18 Chwefror oedd y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd; wyddech chi mai blwyddyn y mochyn ydi hi eleni!?!

Cysylltu â ni:

Os oes gennych eitem newyddion yr hoofech ei gweld ar dudalen Newyddion CALU, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda:

e-bost: calu@bangor.ac.uk

CALU exists to transfer technology to any business in Wales that is interested in horticulture, biomass, alternative crops, alternative livestock and/or farm woodlands.