Canolfan Defnydd Tir Amgen
Mae ceisio dod o hyd i wybodaeth gyfredol am brisiau’r farchnad yn her gyson i gynhyrchwyr, yn enwedig i’r rhai hynny sy’n delio â chynnyrch arbenigol neu lai cyffredin.
Garddwriaeth
Mae’r data mwyaf cynhwysfawr i gynhyrchwyr garddwriaethol yn cael ei gyhoeddi gan Defra. I weld y wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad ar gyfer cynnyrch garddwriaethol, cliciwch yma i fynd at adran ystadegau gwefan Defra. Cyhoeddir adroddiad wythnosol ar brisiau cyfanwerthu ffrwythau, llysiau, blodau wedi eu torri a phlanhigion mewn potiau.
Organig
Mae gwasanaeth newydd yn cael ei lansio, fel rhan o broject gan y Soil Association, dan nawdd Defra, i roi gwybodaeth am brisiau’r farchnad i gynhyrchwyr organig. Ar hyn o bryd (Ebrill 2007) mae tudalennau’r we yn cyhoeddi prisiau’r farchnad ar gyfer cynnyrch organig tir âr a da byw. Dylai gwybodaeth am brisiau cynnyrch garddwriaethol ddilyn yn y dyfodol agos.
Mae'r safle hwn wrthi'n cael ei ddatblygu - bydd rhagor o wybodaeth ar gael cyn bo hir.