UWB Crest

Canolfan Defnydd Tir Amgen

Digwyddiadau CALU

Drwy gydol y flwyddyn, bydd CALU yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru. Mae manylion am y digwyddiadau yn cael eu darparu isod (cliciwch ar ddyddiad neu deitl disgwyddiad i weld y manylion). Os hoffech gael gwybodaeth bellach am unrhyw un ohonynt, cysylltwch â CALU neu â'r person a enwir yn y blwch manylion digwyddiadau.

Cliciwch ar y digwyddiad am ragor o wybodaeth

GWENEIR POB YMDRECH I GADW'R TUDALEN HON YN GWYIR, OND CYSYLLTWCH A THREFNYDD Y DIGWYDDIAD CYN TRAFEILIO OS GWELWCH YN DDA.

Mae'r dudalen hon yn cael ei chyfieithu. Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra.

2011

 

AWST 2011

DIGWYDDIAD:Gweithdy Ymarferol
PWNC:
CADW MOCH IACH
DYDDIAD:Dydd Mawrth 16 Awst 2011
AMSER:1.00pm - 5.00pm
LLEOLIAD:Coleg Meirion Dwyfor, Glynllifon, Caernarfon, LL54 5DU

Hoffai CALU eich gwahodd i ddiwrnod amhrisiadwy o gyngor ymarferol ar iechyd moch gan Mr. Bob Stevenson, milfeddyg moch o fri a chyn-lywydd Cymdeithas Milfeddygaeth Moch y DU.
Mae Mr Stevenson hefyd yn gyn-gadeirydd ar Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau Anifeiliaid y DU, a chanddo ddiddordeb penodol yn anghenion y cynhyrchydd llai.

Yn y gweithdy hwn, bydd Bob yn dangos sgorio cyflwr cyrff hychod yn effeithiol, a hynny’n hollbwysig o ran cloriannu iechyd a chynhyrchiant moch. Bydd hefyd yn edrych ar symptomau problemau sy’n gyffredin yn achos moch a sut y gellir eu trin, gan ddangos defnydd effeithiol cynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer hybu iechyd.

I archebu eich lle, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cystyllwch â CALU - 01248 680450

Nôl i'r top


DIGWYDDIAD:Gweithdy Ymarferol
PWNC:
TOCIO COED AFALAU YN YR HAF
DYDDIAD:Dydd Mercher 3 Awst 2011
AMSER:11.15am–3.30pm
LLEOLIAD:Llanerchaeron National Trust, Ciliau Aeron, SA48 8DG

A oes angen ychydig o ofal arbennig ar eich perllan?

Yn dilyn ein gweithdai hynod boblogaidd ar docio yn y gaeaf, mae CALU yn eich gwahodd i ymuno â ni am sesiwn ar docio yn yr haf.

Arweinir y gweithdy ymarferol hwn gan Paul Davis o feithrinfa coed ffrwythau Dolau Hirion. Mae’r gweithdy’n gyfle unigryw i rai sydd wedi hen arfer tyfu coed ffrwythau a rhai sydd newydd gychwyn. Mae’n bwriadu bod yn rhyngweithiol iawn gyda digon o gyfle i ofyn cwestiynau.

Bydd Paul yn sôn am theori tocio yn ystod yr haf i ddeall sut y bydd yn helpu’ch coed. Yn dilyn hyn, ceir sesiwn ymarferol yn y berllan fel y gellwch gael profiad ymarferol.

 

I archebu eich lle, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cystyllwch â CALU - 01248 680450

Nôl i'r top