Canolfan Defnydd Tir Amgen
Mae CALU yn sefydlu rhwydwaith o grwpiau trafod ledled Cymru. Diben y grwpiau hyn yw rhoi fforwm lle gall y sawl â diddordeb ym meysydd gwaith CALU gyfarfod i gyfnewid gwybodaeth, cyngor a phrofiad. Bydd y grwpiau trafod yn cyfarfod lawer gwaith y flwyddyn. Yn y cyfarfodydd hyn, bydd siaradwr gwadd o ddewis y grŵp fel arfer yn rhoi sgwrs ar bwnc o ddiddordeb arbennig i'r grŵp trafod hwnnw, ac yna ceir sesiwn holi ac ateb.
Mae gan CALU bedwar grŵp yn rhedeg ar hyn o bryd. Ein gobaith yw sefydlu mwy o grwpiau, gan gynnwys un neu ddau o grŵpiau ar ffrwythau bychan yn y dyfodol agos. Os oes gennych ddiddordeb mewn ffurfio grŵp trafod, neu ymuno ag un, cysylltwch â CALU am fwy o wybodaeth.
Bydd aml o gyfarfodydd grwpiau trafodaeth agored i bawb - am fwy o wybodaeth am hynny welwch am dudalen digwyddiadau.